DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Cyhoeddi dogfen ymgynghori am yr offerynnau statudol drafft sydd i’w gwneud o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

DYDDIAD

10 Chwefror 2014

GAN

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

 

 

Hoffwn hysbysu’r Aelodau bod dogfen ymgynghori wedi’i chyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru yn gofyn i bobl fynegi barn am 3 set o reoliadau drafft sy’n cael eu gwneud o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.  

 

Rwyf am gasglu ynghyd safbwyntiau’r bobl hynny a fydd yn defnyddio’r gweithdrefnau newydd a nodir yn y rheoliadau, er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau hynny mor glir ac effeithiol ag y bo modd, a’u bod yn hawdd eu defnyddio. Un o’r amcanion eraill yw helpu i godi ymwybyddiaeth am y newidiadau sydd ar droed.   

 

Rwyf yn awyddus i glywed safbwyntiau rhanddeiliaid, a byddaf yn ystyried y safbwyntiau hynny’n ofalus wrth fynd ati i ddiweddaru’r rheoliadau.

 

Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion hyn yn para 12 wythnos, tan 6 Mai 2014. Manylir yn y ddogfen ymgynghori ei hun ar sut i ymateb.

 

http://wales.gov.uk/consultations/housing-and-regeneration/mobile-homes/?skip=1&lang=cy